cover image: Adroddiad y Sefydliad Materion Cymreig - Croesffyrdd Creadigol: Cynaliadwyedd a Llesiant

Adroddiad y Sefydliad Materion Cymreig - Croesffyrdd Creadigol: Cynaliadwyedd a Llesiant

7 Feb 2024

Roedd ymraniad yr iaith a ddefnyddiwyd i ddisgrifio’r gweithgareddau a gynhwyswyd yn y sector creadigol, a’r cysyniad o economi greadigol, yn bwnc a godwyd yn aml ym mhob panel yn y digwyddiad. [...] Fodd bynnag, fel y nododd panelydd yn ddiweddarach, mae hyd yn oed rhai cyfleoedd a gyfeirir at ‘gymunedau amrywiol’ fel y’u gelwir yn parhau, i bob pwrpas, yn symbolaidd ac mewn perygl o golli’r grwpiau y maent yn honni eu bod yn mynd i’r afael â nhw. [...] Roedd y drafodaeth yn crisialu’r ffaith ei bod yn ymddangos bod gan sefydliadau celfyddydol, cyllidwyr a chyrff cyhoeddus ar hyn o bryd gysyniadau gwahanol, ac o bosibl rhai anghyson, o rôl y celfyddydau mewn cymdeithas, ond hefyd o effaith materol y rhaniad hwn ar artistiaid, sydd nid yn unig yn un ieithyddol, ond hefyd yn un o ran adnoddau. [...] Er mwyn i’r gwaith hwn fod yn effeithiol ac yn gynaliadwy, fodd bynnag, mae angen ei alleueiddio: mae rôl y cydlynydd cynaliadwyedd yn newydd, ac nid oes gan y rhai sydd wedi ymuno â’r diwydiant yn ddiweddar y sgiliau na’r adnoddau digonol ar hyn o bryd i gynnal y safonau cynaliadwyedd sy’n ofynnol i leihau ôl troed y diwydiant a chyflawni Net Sero yn fyd- eang. [...] Mae dargadwedd hefyd yn peri heriau yn y sector: ‘Does dim prinder pobl yn dod i mewn i’r sector, ond rydym yn eu colli.’ O ganlyniad, mae Panel Cynghori Sgiliau Creadigol Llywodraeth Cymru yn gweithio i bontio’r bwlch rhwng addysg uwch a’r sector, gyda newydd-ddyfodiaid heb fod yn ddigon parod ar gyfer byd gwaith yn y sector creadigol.
Pages
19
Published in
United Kingdom
Title in English
Institute of Welsh Affairs Report - Creative Crossroads: Sustainability and Well-being [from PDF fonts]