Beth yw newid gyrfa a pham ei fod yn bwysig? Bu blynyddoedd diweddar yn gythryblus am nifer o resymau; yr argyfwng ariannol yn 2008, newid yn y drefn ariannol fyd-eang a phandemig, sydd i gyd wedi ysgwyd yr amgylchedd economaidd yr ydym yn byw ynddo. [...] Mae Ffigur 1 yn dangos y canran o bobl mewn gwaith sy’n newid swyddi yn ôl cenedl a rhanbarth ar gyfer cyfnodau cyn pandemig Covid-19, yn ystod y pandemig a blwyddyn wedyn. [...] 3 Dengys ein dadansoddiad o’r amcanestyniadau yma mai Cymru fydd yn gweld y twf canran mwyaf yn y nifer a gyflogir yn y sector cyllid o gymharu ag unrhyw genedl neu ranbarth arall yn y Deyrnas Unedig. [...] I Gymru, mae hwn yn gyfle a gollwyd ac mae’n golygu fod newidiadau deinamig yn y farchnad lafur yn digwydd ad hoc, heb fwriad datblygu economaidd clir o amgylch anghenion sgiliau a sectorau Cymru yn y dyfodol. [...] Dylid gwneud hyn yn eglur yn y dyfodol, gyda’r cymorth newid gyrfa dynodedig newydd yn targedu newid sector yn yr economi, gan alluogi llywodraeth i gefnogi pobl i sectorau newydd sy’n tyfu, sy’n fwy cynhyrchiol ac sy’n talu cyflogau uwch, ac i ffwrdd o’r rhai sy’n symud yn y cyfeiriad arall.
Authors
- Pages
- 8
- Published in
- United Kingdom
- Title in English
- The New Future of Four Nations - Information paper Wales - About Learning and Work and the New Future pilots [from PDF fonts]
Table of Contents
- Am Dysgu a Gwaith a chynlluniau peilot Dyfodol Newydd 1
- Beth yw newid gyrfa a pham ei fod yn bwysig 1
- Dadansoddiad o newid gyrfa yng Nghymru 2
- Ffigur 1 Canran pobl mewn gwaith syn newid swyddi yn ôl cenedl a rhanbarth 3
- Ffigur 2 Cyflogaeth yn ôl sector 2020 i 2035 Twf y flwyddyn 4
- Y tirlun cymorth cyfredol yng Nghymru 4
- Cymrun Gweithio 5
- ReAct 5
- Cymunedau am Waith a Mwy 6
- Cyfrifon Dysgu Personol 6
- Cronfa Ddysgu Undebau Cymru 6
- Blaenoriaethau polisi i helpu pobl i newid gyrfa 6
- Egluro newid gyrfa 7
- Gwneud newid gyrfa yn rhan strategol o bolisi yng Nghymru 7
- Cynnal ac ehangu thema newid gyrfa Cymrun Gweithio. 7
- Parhau i ddarparu cyllid ReAct ar gyfer y rhai syn wynebu dileu swydd. 8
- Creu cymorth penodol newid gyrfa. 8
- Symud ymlaen 8