Mae’r ffactorau cymdeithasol sy’n dylanwadu ar iechyd yn disgrifio’r amodau cymdeithasol ac amgylcheddol lle mae pobl yn cael eu geni, yn tyfu, yn byw, yn gweithio ac yn heneiddio, sy’n llywio ac yn sbarduno canlyniadau iechyd. [...] Mae tystiolaeth amlwg o’r angen i leihau anghydraddoldebau iechyd – maent yn ddiangen ac yn anghyfiawn, yn niweidio unigolion, teuluoedd a chymunedau ac yn rhoi baich ariannol enfawr ar wasanaethau, gan gynnwys y GIG, y Trydydd Sector ac ar yr economi. [...] Fel y nodwn yn ein hadroddiadau ar ardaloedd lleol eraill yn y DU, mae lleoedd lleol yn aml yn deall eisoes sut i fynd i’r afael ag anghydraddoldebau iechyd ond nid ydynt yn gweithredu’r camau angenrheidiol ar y raddfa sydd ei hangen. [...] RHOI Y DECHRAU GORAU MEWN BYWYD I BOB PLENTYN Mae profiadau yn ystod y blynyddoedd cynnar ac mewn addysg yn arbennig o bwysig ar gyfer iechyd yn y tymor byr a’r tymor hwy, ac ar gyfer canlyniadau mewn penderfynyddion cymdeithasol eraill sy’n effeithio ar iechyd yn ddiweddarach mewn bywyd, fel addysg ac incwm(1) (5). [...] MYND AR DRYWYDD CYNALIADWYEDD AMGYLCHEDDOL A THEGWCH IECHYD GYDA’N GILYDD Wrth i’r hinsawdd gynhesu ac wrth i nifer yr achosion o dywydd eithafol gynyddu, bydd niwed i iechyd o ganlyniad i newid yn yr hinsawdd hefyd yn cynyddu ac, yn y dyfodol, bydd yn effeithio ar y bobl sy’n byw yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig(38).
- Pages
- 17
- Published in
- United Kingdom
- Title in English
- CREATING A FAIRER GWENT: IMPROVING HEALTH EQUITY AND SOCIAL DETERMINANTS - Executive Summary [from PDF fonts]