Roedd llawer o'r cyfranogwyr a oedd yn cymudo i'r gwaith cyn y coronafeirws ac yng ngwanwyn 2021 yn defnyddio car (37% a 28%, yn y drefn honno), ac yna'r beic (28% a 34%, yn y drefn honno). [...] Cyn y pandemig, roedd dros ddwbl nifer y cyfranogwyr yn y Cyrion a'r Tu Allan i Gaerdydd yn cymudo i'r gwaith ar drên o gymharu â'r sampl gyffredinol (15% yn erbyn 7%). [...] Dangosodd y dadansoddiad cymdogaeth fod boddhad gyda pharcio ceir yn arbennig o isel yn y Canol- Dwyrain, ac roedd boddhad gyda chyfleusterau beicio a thrafnidiaeth gyhoeddus yn arbennig o isel yn yr ardal Gogledd-Dwyrain. [...] Gofynnwyd ymhellach i'r cyfranogwyr a oeddent yn ymwybodol o unrhyw fesurau a roddwyd ar waith yn ystod pandemig y coronafeirws i gynyddu lle ar gyfer cerdded a beicio. [...] Roedd y gefnogaeth ar gyfer cadw mesurau COVID-19 yn y tymor hir (60%) a chynyddu lle ar gyfer cerdded a beicio (63%) ychydig yn is yn yr ardal Gogledd-Dwyrain nag mewn ardaloedd eraill.
Authors
- Pages
- 7
- Published in
- United Kingdom
- Title in English
- Key points [from PDF fonts]